1 Chronicles 7

Disgynyddion Issachar

1Meibion Issachar (pedwar i gyd):

Tola, Pwa, Iashŵf a Shimron.

2Meibion Tola:

Wssi, Reffaia, Ieriel, Iachmai, Ibsam a Shemwel. Nhw oedd pennau teuluoedd Tola. Roedd yna 22,600 o ddynion dewr wedi eu rhestru yn y cofrestrau teuluol adeg Dafydd.

3Mab Wssi:

Israchïa.

Meibion Israchïa:

Michael, Obadeia, Joel ac Ishïa. (Roedd y pump ohonyn nhw yn benaethiaid.)

4Yn ôl y cofrestrau teuluol, roedd 36,000 o ddynion yn barod i ryfela am fod ganddyn nhw lot o wragedd a phlant. 5Roedd cyfanswm o 87,000 o ddynion dewr wedi eu rhestru ar gofrestrau teuluol claniau Issachar.

Disgynyddion Benjamin

6Meibion Benjamin (tri i gyd):

Bela, Becher, a Iediael.

7Meibion Bela:

Etsbon, Wssi, Wssiel, Ierimoth, ac Iri. Roedd y pump ohonyn nhw yn benaethiaid eu teuluoedd. Roedd 22,034 wedi eu rhestru yn y cofrestrau teuluol.

8Meibion Becher:

Semira, Ioash, Elieser, Elioenai, Omri, Ieremoth, Abeia, Anathoth, ac Alemeth. Roedd y rhain i gyd yn feibion i Becher. 9Roedd 20,200 o benaethiaid teulu a rhyfelwyr wedi eu rhestru yn eu cofrestrau teuluol.

10Mab Iediael:

Bilhan.

Meibion Bilhan:

Iewsh, Benjamin, Ehwd, Cenaana, Seithan, Tarshish, ac Achishachar. 11Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion Iediael. Roedd 17,200 o benaethiaid teulu a rhyfelwyr yn barod i ymladd wedi eu rhestru yn eu cofrestrau teuluol.

12Roedd y Shwpiaid a'r Chwpiaid yn ddisgynyddion i Ir; a'r Chwshiaid yn ddisgynyddion i Acher.

Disgynyddion Nafftali

13Meibion Nafftali:

Iachtseël, Gwni, Jeser, a Shalwm – meibion Bilha.

Disgynyddion Manasse

14Meibion Manasse:

Asriel (gafodd ei eni i bartner
7:14 bartner Mae'r gair Hebraeg yn air am feistres neu bartner cyfreithlon oedd ddim yn wraig i ddyn yn ystyr lawnaf y gair.
Syriaidd Manasse. A'i phlentyn hi hefyd oedd Machir, tad Gilead.
15Priododd Machir un o wragedd y Chwpiaid a'r Shwpiaid, ac roedd ganddo chwaer o'r enw Maacha.) Yna ail fab Manasse oedd Seloffchad (Dim ond merched gafodd hwnnw yn blant.)

16Dyma Maacha, gwraig Machir, yn cael mab, a'i alw yn Peresh. Roedd ganddo frawd o'r enw Sheresh, ac enw ei feibion oedd Wlam a Recem.

17Mab Wlam:

Bedan.

Y rhain oedd disgynyddion Gilead, mab Machir ac ŵyr Manasse. 18Ei chwaer Hamolecheth oedd mam Ish-hod, Abieser a Machla.

19Meibion Shemida oedd Acheian, Sichem, Lichi, ac Aniam.

Disgynyddion Effraim

20Disgynyddion Effraim:

Shwtelach, ei fab Bered, wedyn i lawr y cenedlaethau drwy Tachath, Elada, Tachath, 21Safad, i Shwtelach.

(Cafodd Eser ac Elead, dau fab arall Effraim, eu lladd gan rai o ddisgynyddion Gath oedd yn byw yn y wlad, pan aethon nhw i lawr i ddwyn eu gwartheg. 22Bu Effraim, eu tad, yn galaru amdanyn nhw am amser maith, a dyma ei frodyr yn dod i'w gysuro.) 23Yna dyma fe'n cysgu gyda'i wraig a dyma hi'n beichiogi ac yn cael bachgen arall. Galwodd Effraim e yn Bereia, am fod pethau wedi bod yn ddrwg ar ei deulu. 24(Merch Bereia oedd Sheëra, wnaeth adeiladu Beth-choron Isaf ac Uchaf, a hefyd Wssen-sheëra.) 25Reffach oedd ei fab, Resheff yn fab i hwnnw, yna i lawr drwy Telach, Tachan, 26Ladan, Amihwd, Elishama, 27Nwn, i Josua.

28Roedd eu tir nhw a'u cartrefi yn cynnwys Bethel a'i phentrefi, ac yn ymestyn i'r dwyrain at Naäran, ac i'r gorllewin at Geser a'i phentrefi. Hefyd Sichem a'i phentrefi cyn belled ag Aia a'i phentrefi yn y gogledd. 29Ar ffiniau tiriogaeth Manasse roedd trefi Beth-shean Taanach, Megido a Dor a'r pentrefi o'u cwmpas. Disgynyddion Joseff, mab Israel, oedd yn byw yno.

Disgynyddion Asher

30Meibion Asher:

Imna, Ishfa, Ishfi, a Bereia. A Serach oedd eu chwaer.

31Meibion Bereia:

Heber a Malciel, oedd yn dad i Birsaith.

32Heber oedd tad Jafflet, Shomer, a Chotham. A Shwa oedd eu chwaer.

33Meibion Jafflet:

Pasach, Bimhal, ac Ashfat. Y rhain oedd meibion Jafflet.

34Meibion ei frawd Shemer:

Roga, Chwba, ac Aram.

35Meibion ei frawd Helem:

Soffach, Imna, Shelesh, ac Amal.

36Meibion Soffach:

Swa, Char-neffer, Shwal, Beri, Imra, 37Betser, Hod, Shamma, Shilsha, Ithran, a Beëra.

38Meibion Jether:

Jeffwnne, Pispa, ac Arach.

39Meibion Wla:

Arach, Channiel, a Ritsia.

40Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion Asher. Roedden nhw i gyd yn benaethiaid teulu, yn filwyr dewr ac arweinwyr medrus. Roedd 26,000 o filwyr yn barod i ymladd wedi eu rhestru yn y cofrestrau teuluol.

Copyright information for CYM